|
1,(2),3.
Ymadaw wnaf â'r babell
'Rwy'n trigo ynddi'n awr;
Colofnau'r tŷ ddattodir,
Fe'u cwympir oll i lawr;
 pob gwahan-glwyf ymaith;
Glân fuddugoliaeth mwy!
'Rwy'n canu wrth gofio'r boreu
Na welir arnaf glwy'. [MR]
Ar fyr caf rodio llwybr
Na ddeuaf byth yn ol;
Mi rof ffarwel trag'wyddol
Yr holl forwynion ffol;
Dedwyddwch maith di-ddarfod
Sydd uchod i barhau;
O! f'enaid, dechreu ganu,
Mae'r amser yn nesau. [MR]
Fe dderfydd i mi bechu,
Iacheir yn lân fy nghlwy',
Ond byth ni dderfydd canu
Am faddeu pechod mwy;
Caf gorph yr hen farwolaeth
I lawr, ni chyfyd byth,
A gwledd ar fynydd Sïon,
Drag'wyddol, bur, ddilyth. [MR]
- - - - -
Ymado wnaf â'r babell
'Rwy'n trigo ynddi'n awr,
Colofnau'r tŷ ddattodir,
Fe'u cwympir oll i lawr;
A pob gwahanglwyf ymaith,
Glân fuddugoliaeth mwy:
'Rwy'n canu wrth gofio'r boreu
Na welir arnaf glwy'.
'Rwyf yma dan y tònau
Yn gruddfan llawer awr,
Yn methu cadw ngolwg
Ar y Messiah mawr;
Ar fyr daw dydd caf nofio
I fewn i'w dawel hedd -
Ni collai ngolwg arno
Yr ochor draw i'r bedd. [JT]
Paham yr ofn'i'r afon,
Wrth weled grym y dŵr?
Mae'r gwaelod wedi ' g'ledu,
A'r Iesu'n flaenaf Gŵr!
Yr afon goch lifeiriol
A darddodd dan ei fron, -
'Rwy'n credu caf fyn'd adref
Yn ngrym yr afon hon. [LM]
- - - - -
Ymado wnaf â'r babell,
'Rwy'n trigo ynddi'n awr;
Colofnau'r ty ddattodir,
Fe'u cwympir oll i lawr;
Aiff pob gwahanglwyf ymaith,
Glân fuddugolmeth mwy,
'Rwy'n canu wrth gofio'r bore,
Na welir arna'i glwy'. [MR]
Os gwelir fi bechadur,
Rhyw ddydd ar ben fy nhaith,
Rhyfeddol fydd y canu,
A newydd fydd y iaith;
Yn seinio buddugoliaeth,
Am iachawdwriaeth lawn;
Heb ofni colli'r frwydr,
Y bore na'r prydnawn. [HS]
MR: Morgan Rhys 1716-79JT: John Thomas 1730-1804? LM: Llawlyfr Moliant 1880 HS: Amryw Hymnau Dymunol a Phrofiadol (Harri Sion) 1773
Tonau [7676D]: gwelir: Ar fyr mi deithiaf llwybyr Ce's gadarn graig i ymguddio Hen afon yr Iorddonen Ni cheisia'i yn wyneb Moses Os gwelir fi bechadur 'Rwyf yma dan y tonnau |
Leave I shall the tent
I am living in now;
The pillars of the house are to be undone,
They shall all fall down;
And all leprosy go away;
Holy victory evermore!
I am singing while remembering the morning
When no wound shall be seen upon me.
Shortly I shall get to walk a path
From which I shall not come back;
I shall bid an eternal farewell
To all the foolish virgins;
Vast, unfading happiness
Is above to endure;
O my soul, begin to sing!
The time is drawing near.
Sin shall vanish for me,
My wounds are to be healed completely,
But singing will never vanish
About the forgiveness of sin evermore;
I shall get the body of the old mortality
Down, it will never rise,
And a feast on mount Zion,
Eternal, pure, unfailing.
- - - - -
Leave I shall the tent
I am living in now,
The pillars of the house are to be undone,
They shall all fall down;
And all leprosy go away,
Holy victory evermore:
I am singing while remembering the morning
When no wound shall be seen upon me.
I am here under the waves
Groaning many an awr,
Failing to keep my gaze
On the great Messiah;
Shortly the day shall come when I may swim
Into his quiet peace -
I shall lose my gaze upon him
On yonder side of the grave.
Why shall I fear the river,
On seeing the force of the water?
The bottom has been hardened,
And Jesus is the foremost Man!
The streaming red river
issued from under his breast, -
I am believing I shall get to go home
In the force of this river.
- - - - -
Leave I shall the tent,
I am living in now;
The pillars of the house are to be undone,
They are all to be fallen down;
Every leprosy shall go away,
Holy victory evermore,
I am singing while remembering the morning,
When no wound shall be seen upon me.
If I, a sinner, am seen
Some day at my journey's end,
Wonderful shall be the singing,
And new shall be the language;
Sounding victory,
For full salvation;
Without fearing losing the battle,
Either morning or evening.
tr. 2019,22 Richard B Gillion
|
|